
Ynglyn CRONFA JK
‘Cefnogaeth rhai mewn angen oherwydd diffyg arian i ymgymryd â hyfforddiant neu addysg a chefnogaeth yn Ynys Môn a Gwynedd trwy ddarparu grantiau i’w galluogi i gael gafael ar y gefnogaeth hon’.
Sefydlwyd Cronfa JK ym mis Mai 2020 gan John a Lisa Kelly er cof am eu diweddar fam June Kelly. Roedd hi’n athrawes ysgol uwchradd ac yn fwyaf diweddar yn diwtor preifat i blant na allent gael mynediad at addysg brif ffrwd ac a oedd a diddordeb mewn helpu eraill.
Nod Cronfa JK yw cefnogi unigolion o gymunedau Ynys Mon a Gwynedd trwy roi grantiau bach er mwyn iddynt gael mynediad at hyfforddiant neu addysg a fydd yn gwella eu bywydau ac yn arwain at swydd neu ragolygon gyrfa gwell.
Sut i ddarganfod am ein grantiau?
- cyfryngau cymdeithasol
- gwefan
- gwybodaeth gan ddarparwyr hyfforddaint
- cyd-weithio gyda Cynghorau Gwirfoddol ac asiantaethau eraill yn yr ardaloedd penodol